Lleolir ein hysgol ym mhentref gwledig Pontrhydfendigaid, ger Tregron, Sir Geredigion, a gwasanaetha'r pentref a'r ardaloedd gyfagos. Derbynia'r ysgol ddisgyblion yn llawn amser i'r dosbarth derbyn yn dilyn eu pen-blwydd yn bedair oed.
Dynodir yr ysgol yn 'Ysgol Gymraeg' yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg; golyga hyn mai'r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i'r sector uwchradd.